29 A Joseff a baratôdd ei gerbyd, ac a aeth i fyny i gyfarfod Israel ei dad i Gosen; ac a ymddangosodd iddo: ac efe a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a wylodd ar ei wddf ef ennyd.
30 A dywedodd Israel wrth Joseff, Byddwyf farw bellach, wedi i mi weled dy wyneb, gan dy fod di yn fyw eto.
31 A dywedodd Joseff wrth ei frodyr, ac wrth deulu ei dad, Mi a af i fyny, ac a fynegaf i Pharo, ac a ddywedaf wrtho, Fy mrodyr, a theulu fy nhad, y rhai oedd yn nhir Canaan, a ddaethant ataf fi.
32 A'r gwŷr, bugeiliaid defaid ydynt: canys perchen anifeiliaid ydynt; a dygasant yma eu praidd, a'u gwartheg, a'r hyn oll oedd ganddynt.
33 A phan alwo Pharo amdanoch, a dywedyd, Beth yw eich gwaith?
34 Dywedwch, Dy weision fuant drinwyr anifeiliaid o'u hieuenctid hyd yr awr hon, nyni a'n tadau hefyd; er mwyn cael ohonoch drigo yn nhir Gosen: canys ffieidd‐dra yr Eifftiaid yw pob bugail defaid.