5 A chyfododd Jacob o Beer‐seba: a meibion Israel a ddygasant Jacob eu tad, a'u rhai bach, a'u gwragedd, yn y cerbydau a anfonasai Pharo i'w ddwyn ef.
6 Cymerasant hefyd eu hanifeiliaid, a'u golud a gasglasent yn nhir Canaan, ac a ddaethant i'r Aifft, Jacob, a'i holl had gydag ef:
7 Ei feibion, a meibion ei feibion gydag ef, ei ferched, a merched ei feibion, a'i holl had, a ddug efe gydag ef i'r Aifft.
8 A dyma enwau plant Israel, y rhai a ddaethant i'r Aifft, Jacob a'i feibion: Reuben, cynfab Jacob.
9 A meibion Reuben; Hanoch, a Phalu, Hesron hefyd, a Charmi.
10 A meibion Simeon; Jemwel, a Jamin, ac Ohad, a Jachin, a Sohar, a Saul mab Canaanëes.
11 Meibion Lefi hefyd; Gerson, Cohath, a Merari.