16 A dywedodd Joseff, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu'r arian.
17 A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseff: a rhoddes Joseff iddynt fara am y meirch, ac am y diadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynnod; ac a'u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.
18 A phan ddarfu'r flwyddyn honno, y daethant ato ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a'n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni gerbron fy arglwydd onid ein cyrff a'n tir.
19 Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a'n tir? prŷn ni a'n tir am fara; a nyni a'n tir a fyddwn gaethion i Pharo: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo'r tir yn anghyfannedd.
20 A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo.
21 Y bobl hefyd, efe a'u symudodd hwynt i ddinasoedd, o'r naill gwr i derfyn yr Aifft hyd ei chwr arall.
22 Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i'r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a'u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.