4 Dywedasant hefyd wrth Pharo, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i'r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn yng ngwlad Canaan: ac yr awr hon, atolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen.
5 A llefarodd Pharo wrth Joseff, gan ddywedyd, Dy dad a'th frodyr a ddaethant atat.
6 Tir yr Aifft sydd o'th flaen; cyflea dy dad a'th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus, gosod hwynt yn ben‐bugeiliaid ar yr eiddof fi.
7 A dug Joseff Jacob ei dad, ac a'i gosododd gerbron Pharo: a Jacob a fendithiodd Pharo.
8 A dywedodd Pharo wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?
9 A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.
10 A bendithiodd Jacob Pharo, ac a aeth allan o ŵydd Pharo.