6 Tir yr Aifft sydd o'th flaen; cyflea dy dad a'th frodyr yn y man gorau yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymus, gosod hwynt yn ben‐bugeiliaid ar yr eiddof fi.
7 A dug Joseff Jacob ei dad, ac a'i gosododd gerbron Pharo: a Jacob a fendithiodd Pharo.
8 A dywedodd Pharo wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?
9 A Jacob a ddywedodd wrth Pharo, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chan mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyraeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.
10 A bendithiodd Jacob Pharo, ac a aeth allan o ŵydd Pharo.
11 A Joseff a gyfleodd ei dad a'i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant yng ngwlad yr Aifft, yng nghwr gorau y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchmynasai Pharo.
12 Joseff hefyd a gynhaliodd ei dad, a'i frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ôl eu teuluoedd.