1 A bu, wedi'r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim.
2 A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseff yn dyfod atat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.
3 A dywedodd Jacob wrth Joseff, Duw Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, ac a'm bendithiodd:
4 Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a'th wnaf yn ffrwythlon, ac a'th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y'th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i'th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.