10 Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a'u dygodd hwynt ato ef: yntau a'u cusanodd hwynt, ac a'u cofleidiodd.
11 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele, parodd Duw i mi weled dy had hefyd.
12 A Joseff a'u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.
13 Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a'u nesaodd hwynt ato ef.
14 Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a'i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oedd yr ieuangaf,) a'i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.
15 Ac efe a fendithiodd Joseff, ac a ddywedodd, Duw, yr hwn y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac ger ei fron, Duw, yr hwn a'm porthodd er pan ydwyf, hyd y dydd hwn,
16 Yr angel yr hwn a'm gwaredodd i oddi wrth bob drwg, a fendithio'r llanciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.