2 A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseff yn dyfod atat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.
3 A dywedodd Jacob wrth Joseff, Duw Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, ac a'm bendithiodd:
4 Dywedodd hefyd wrthyf, Wele, mi a'th wnaf yn ffrwythlon, ac a'th amlhaf, ac yn dyrfa o bobloedd y'th wnaf, a rhoddaf y tir hwn i'th had di ar dy ôl di, yn etifeddiaeth dragwyddol.
5 Ac yr awr hon, dy ddau fab, y rhai a anwyd i ti yn nhir yr Aifft, cyn fy nyfod atat i'r Aifft, eiddof fi fyddant hwy: Effraim a Manasse fyddant eiddof fi, fel Reuben a Simeon.
6 A'th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun; ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.
7 A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.
8 A gwelodd Israel feibion Joseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?