6 A'th epil, y rhai a genhedlych ar eu hôl hwynt, fyddant eiddot ti dy hun; ar enw eu brodyr y gelwir hwynt yn eu hetifeddiaeth.
7 A phan ddeuthum i o Mesopotamia, bu Rahel farw gyda mi yn nhir Canaan, ar y ffordd, pan oedd eto filltir o dir hyd Effrath: a chleddais hi yno ar ffordd Effrath: honno yw Bethlehem.
8 A gwelodd Israel feibion Joseff, ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn?
9 A Joseff a ddywedodd wrth ei dad, Dyma fy meibion i, a roddodd Duw i mi yma. Yntau a ddywedodd, Dwg hwynt, atolwg, ataf fi, a mi a'u bendithiaf hwynt.
10 Llygaid Israel hefyd oedd drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a'u dygodd hwynt ato ef: yntau a'u cusanodd hwynt, ac a'u cofleidiodd.
11 Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele, parodd Duw i mi weled dy had hefyd.
12 A Joseff a'u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.