13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
14 A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd Jered.
16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.
18 A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch.
19 A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.