20 A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.
21 Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Methwsela.
22 Ac Enoch a rodiodd gyda Duw wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched.
23 A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd.
24 A rhodiodd Enoch gyda Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a'i cymerodd ef.
25 Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech.
26 A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched.