2 Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o'r rhai oll a ddewisasant.
3 A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe: a'i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
4 Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion Duw at ferched dynion, a phlanta o'r rhai hynny iddynt: dyma'r cedyrn a fu wŷr enwog gynt.
5 A'r Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser.
6 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon.
7 A'r Arglwydd a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt.
8 Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr Arglwydd.