15 A daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob cnawd a'r oedd ynddo anadl einioes.
16 A'r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai Duw iddo. A'r Arglwydd a gaeodd arno ef.
17 A'r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a'r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.
18 A'r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a'r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.
19 A'r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.
20 Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a'r mynyddoedd a orchuddiwyd.
21 A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.