18 A'r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a'r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.
19 A'r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.
20 Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a'r mynyddoedd a orchuddiwyd.
21 A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.
22 Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o'r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw.
23 Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a'r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ie, dilewyd hwynt o'r ddaear: a Noa a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.
24 A'r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.