2 O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith, y gwryw a'i fenyw; a dau o'r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a'i fenyw:
3 O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.
4 Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a'r a wneuthum i.
5 A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo.
6 Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu'r dyfroedd dilyw ar y ddaear.
7 A Noa a aeth i mewn, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i'r arch, rhag y dwfr dilyw.
8 O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o'r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear,