9 Yr aeth i mewn at Noa i'r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchmynasai Duw i Noa.
10 Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear.
11 Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o'r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri'r nefoedd a agorwyd.
12 A'r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.
13 O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i'r arch;
14 Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw.
15 A daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob cnawd a'r oedd ynddo anadl einioes.