12 Ac efe a arhosodd eto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd y golomen; ac ni ddychwelodd hi eilwaith ato ef mwy.
13 Ac yn yr unfed flwyddyn a chwe chant, yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o'r mis, y darfu i'r dyfroedd sychu oddi ar y tir: a Noa a symudodd gaead yr arch, ac a edrychodd, ac wele, sychasai wyneb y ddaear.
14 Ac yn yr ail fis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, y ddaear a sychasai.
15 A llefarodd Duw wrth Noa, gan ddywedyd,
16 Dos allan o'r arch, ti, a'th wraig, a'th feibion, a gwragedd dy feibion, gyda thi.
17 Pob peth byw a'r sydd gyda thi, o bob cnawd, yn adar, ac yn anifeiliaid, ac yn bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, a ddygi allan gyda thi: epiliant hwythau yn y ddaear, a ffrwythant ac amlhânt ar y ddaear.
18 A Noa a aeth allan, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef.