18 A Noa a aeth allan, a'i feibion, a'i wraig, a gwragedd ei feibion, gydag ef.
19 Pob bwystfil, pob ymlusgiad, a phob ehediad, pob peth a ymlusgai ar y ddaear, wrth eu rhywogaethau, a ddaethant allan o'r arch.
20 A Noa a adeiladodd allor i'r Arglwydd, ac a gymerodd o bob anifail glân, ac o bob ehediad glân, ac a offrymodd boethoffrymau ar yr allor.
21 A'r Arglwydd a aroglodd arogl esmwyth; a dywedodd yr Arglwydd yn ei galon, Ni chwanegaf felltithio'r ddaear mwy er mwyn dyn: oherwydd bod bryd calon dyn yn ddrwg o'i ieuenctid: ac ni chwanegaf mwy daro pob peth byw, fel y gwneuthum.
22 Pryd hau, a chynhaeaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gaeaf, a dydd, a nos, ni phaid mwy holl ddyddiau y ddaear.