12 A Duw a ddywedodd, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw a'r y sydd gyda chwi, tros oesoedd tragwyddol:
13 Fy mwa a roddais yn y cwmwl, ac efe a fydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a'r ddaear.
14 A bydd, pan godwyf gwmwl ar y ddaear, yr ymddengys y bwa yn y cwmwl.
15 A mi a gofiaf fy nghyfamod, yr hwn sydd rhyngof fi a chwi, ac a phob peth byw o bob cnawd: ac ni bydd y dyfroedd yn ddilyw mwy, i ddifetha pob cnawd.
16 A'r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
17 A Duw a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
18 A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o'r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan.