16 A'r bwa a fydd yn y cwmwl; a mi a edrychaf arno ef, i gofio'r cyfamod tragwyddol rhwng Duw a phob peth byw, o bob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
17 A Duw a ddywedodd wrth Noa, Dyma arwydd y cyfamod, yr hwn a gadarnheais rhyngof fi a phob cnawd a'r y sydd ar y ddaear.
18 A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o'r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan.
19 Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o'r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear.
20 A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan:
21 Ac a yfodd o'r gwin, ac a feddwodd, ac a ymnoethodd yng nghanol ei babell.
22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i'w ddau frawd allan.