22 A Cham tad Canaan a welodd noethni ei dad, ac a fynegodd i'w ddau frawd allan.
23 A chymerodd Sem a Jaffeth ddilledyn, ac a'i gosodasant ar eu hysgwyddau ill dau, ac a gerddasant yn wysg eu cefn, ac a orchuddiasant noethni eu tad; a'u hwynebau yn ôl, fel na welent noethni eu tad.
24 A Noa a ddeffrôdd o'i win, ac a wybu beth a wnaethai ei fab ieuangaf iddo.
25 Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i'w frodyr fydd.
26 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
27 Duw a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
28 A Noa a fu fyw wedi'r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain.