25 Ac efe a ddywedodd, Melltigedig fyddo Canaan; gwas gweision i'w frodyr fydd.
26 Ac efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
27 Duw a helaetha ar Jaffeth, ac efe a breswylia ym mhebyll Sem; a Chanaan fydd was iddo ef.
28 A Noa a fu fyw wedi'r dilyw dri chan mlynedd a deng mlynedd a deugain.
29 Felly holl ddyddiau Noa oedd naw can mlynedd a deng mlynedd a deugain; ac efe a fu farw.