3 Pob ymsymudydd yr hwn sydd fyw, fydd i chwi yn fwyd: fel y gwyrdd lysieuyn y rhoddais i chwi bob dim.
4 Er hynny na fwytewch gig ynghyd â'i einioes, sef ei waed.
5 Ac yn ddiau gwaed eich einioes chwithau hefyd a ofynnaf fi: o law pob bwystfil y gofynnaf ef; ac o law dyn, o law pob brawd iddo y gofynnaf einioes dyn.
6 A dywallto waed dyn, trwy ddyn y tywelltir ei waed yntau, oherwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn.
7 Ond chwychwi, ffrwythwch ac amlhewch epiliwch ar y ddaear, a lluosogwch ynddi.
8 A Duw a lefarodd wrth Noa, ac wrth ei feibion gydag ef, gan ddywedyd,
9 Ac wele myfi, ie myfi, ydwyf yn cadarnhau fy nghyfamod â chwi, ac â'ch had ar eich ôl chwi;