1 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r ail fis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aifft, gan ddywedyd,
2 Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, yn ôl eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwryw wrth eu pennau;
3 O fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a'u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd.
4 A bydded gyda chwi ŵr o bob llwyth; sef y gŵr pennaf o dŷ ei dadau.
5 A dyma enwau'r gwŷr a safant gyda chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedeur.
6 O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisadai.