Numeri 27 BWM

1 Yna y daeth merched Salffaad, mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, o dylwyth Manasse mab Joseff; (a dyma enwau ei ferched ef; Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa;)

2 Ac a safasant gerbron Moses, a cherbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron y penaethiaid, a'r holl gynulleidfa, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gan ddywedyd,

3 Ein tad ni a fu farw yn yr anialwch; ac nid oedd efe ymysg y gynulleidfa a ymgasglodd yn erbyn yr Arglwydd yng nghynulleidfa Cora, ond yn ei bechod ei hun y bu farw; ac nid oedd meibion iddo.

4 Paham y tynnir ymaith enw ein tad ni o fysg ei dylwyth, am nad oes iddo fab? Dod i ni feddiant ymysg brodyr ein tad.

5 A dug Moses eu hawl hwynt gerbron yr Arglwydd.

6 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

7 Y mae merched Salffaad yn dywedyd yn uniawn; gan roddi dyro iddynt feddiant etifeddiaeth ymysg brodyr eu tad: trosa iddynt etifeddiaeth eu tad.

8 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo marw un, ac heb fab iddo, troswch ei etifeddiaeth ef i'w ferch.

9 Ac oni bydd merch iddo, rhoddwch ei etifeddiaeth ef i'w frodyr.

10 Ac oni bydd brodyr iddo; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i frodyr ei dad.

11 Ac oni bydd brodyr i'w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i'w gâr nesaf iddo o'i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dring i'r mynydd Abarim hwn, a gwêl y tir a roddais i feibion Israel.

13 Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy frawd.

14 Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynulleidfa, y gwrthryfelasoch yn erbyn fy ngair, i'm sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr cynnen Cades, yn anialwch Sin.

15 A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,

16 Gosoded yr Arglwydd, Duw ysbrydion pob cnawd, un ar y gynulleidfa,

17 Yr hwn a elo allan o'u blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o'u blaen hwynt, a'r hwn a'u dygo hwynt allan, ac a'u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynulleidfa'r Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt.

18 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno;

19 A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt.

20 A dod o'th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno.

21 A safed gerbron Eleasar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gyngor drosto ef, yn ôl barn Urim, gerbron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gydag ef, a'r holl gynulleidfa.

22 A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: ac a gymerodd Josua, ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa.

23 Ac efe a osododd ei ddwylo arno, ac a roddodd orchymyn iddo; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36