Numeri 23 BWM

1 Adywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith o fustych, a saith o hyrddod.

2 A gwnaeth Balac megis ag y dywedodd Balaam. Ac offrymodd Balac a Balaam fustach a hwrdd ar bob allor.

3 A dywedodd Balaam wrth Balac, Saf di wrth dy boethoffrwm; myfi a af oddi yma: ond odid daw yr Arglwydd i'm cyfarfod; a mynegaf i ti pa air a ddangoso efe i mi. Ac efe a aeth i le uchel.

4 A chyfarfu Duw â Balaam; a dywedodd Balaam wrtho, Darperais saith allor, ac aberthais fustach a hwrdd ar bob allor.

5 A gosododd yr Arglwydd air yng ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

6 Ac efe a ddychwelodd ato. Ac wele, efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boethoffrwm.

7 Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, O Siria y cyrchodd Balac brenin Moab fyfi, o fynyddoedd y dwyrain, gan ddywedyd, Tyred, melltithia i mi Jacob; tyred, a ffieiddia Israel.

8 Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd?

9 Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o'r bryniau yr edrychaf arno; wele bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â'r cenhedloedd.

10 Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau.

11 A dywedodd Balac wrth Balaam, Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion y'th gymerais; ac wele, gan fendithio ti a'u bendithiaist.

12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fy ngenau, sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd?

13 A dywedodd Balac wrtho ef, Tyred, atolwg, gyda myfi i le arall, lle y gwelych hwynt: oddi yno y cei weled eu cwr eithaf hwynt yn unig, ac ni chei eu gweled hwynt i gyd: rhega dithau hwynt i mi oddi yno.

14 Ac efe a'i dug ef i faes amlwg, i ben bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

15 Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boethoffrwm, a mi a af acw i gyfarfod â'r Arglwydd.

16 A chyfarfu yr Arglwydd â Balaam; ac a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

17 Ac efe a ddaeth ato. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr Arglwydd?

18 Yna y cymerodd efe ei ddameg, ac a ddywedodd, Cyfod, Balac, a gwrando; mab Sippor, clustymwrando â mi.

19 Nid dyn yw Duw, i ddywedyd celwydd; na mab dyn, i edifarhau: a ddywedodd efe, ac nis cyflawna? a lefarodd efe, ac oni chywira?

20 Wele, cymerais arnaf fendithio; a bendithiodd efe; ac ni throaf fi hynny yn ei ôl.

21 Ni wêl efe anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsedd yn Israel; yr Arglwydd ei Dduw sydd gydag ef, ac y mae utgorn-floedd brenin yn eu mysg hwynt.

22 Duw a'u dug hwynt allan o'r Aifft: megis nerth unicorn sydd iddo.

23 Canys nid oes swyn yn erbyn Jacob, na dewiniaeth yn erbyn Israel: y pryd hwn y dywedir am Jacob, ac am Israel, Beth a wnaeth Duw!

24 Wele, y bobl a gyfyd fel llew mawr, ac fel llew ieuanc yr ymgyfyd: ni orwedd nes bwyta o'r ysglyfaeth, ac yfed gwaed y lladdedigion.

25 A dywedodd Balac wrth Balaam, Gan regi na rega ef mwy: gan fendithio na fendithia ef chwaith.

26 Yna yr atebodd Balaam, ac a ddywedodd wrth Balac, Oni fynegais i ti, gan ddywedyd, Yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd, hynny a wnaf fi?

27 A dywedodd Balac wrth Balaam, Tyred, atolwg, mi a'th ddygaf i le arall: ond odid bodlon fydd gan Dduw i ti ei regi ef i mi oddi yno.

28 A Balac a ddug Balaam i ben Peor, yr hwn sydd yn edrych tua'r diffeithwch.

29 A dywedodd Balaam wrth Balac, Adeilada i mi yma saith allor; a darpara i mi yma saith bustach a saith hwrdd.

30 A gwnaeth Balac megis y dywedodd Balaam; ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36