Numeri 4 BWM

1 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2 Cymer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi, wrth eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau;

3 O fab deng mlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab deng mlwydd a deugain, pob un a elo i'r llu, i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

4 Dyma weinidogaeth meibion Cohath, ym mhabell y cyfarfod, ynghylch y pethau sancteiddiolaf.

5 A deued Aaron a'i feibion, pan gychwynno'r gwersyll, a thynnant i lawr y wahanlen orchudd, a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth;

6 A gosodant ar hynny do o grwyn daearfoch, a thaenant arni wisg o sidan glas i gyd, a gosodant ei throsolion wrthi.

7 Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas, a gosodant ar hynny y dysglau, a'r cwpanau, a'r ffiolau, a'r caeadau i gau: a bydded y bara bob amser arno.

8 A thaenant arnynt wisg o ysgarlad, a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei drosolion wrtho.

9 Cymerant hefyd wisg o sidan glas, a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni, a'i lampau, a'i efeiliau, a'i gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef â hwynt.

10 A gosodant ef a'i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ef ar drosol.

11 A thaenant frethyn glas ar yr allor aur, a gorchuddiant hi â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

12 Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cysegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol.

13 A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor.

14 A rhoddant arni ei holl lestri, â'r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, ie, holl lestri'r allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

15 Pan ddarffo i Aaron ac i'w feibion orchuddio'r cysegr, a holl ddodrefn y cysegr, pan gychwynno'r gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i'w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â'r hyn a fyddo cysegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.

16 Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a'r arogl‐darth peraidd, a'r bwyd‐offrwm gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a'r hyn oll fydd ynddo, yn y cysegr, ac yn ei ddodrefn.

17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

18 Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:

19 Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a'i feibion a ânt i mewn, ac a'u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.

20 Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio'r hyn sydd gysegredig, rhag marw ohonynt.

21 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

22 Cymer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd;

23 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

24 Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.

25 Sef dwyn ohonynt lenni'r tabernacl, a phabell y cyfarfod, ei len do ef, a'r to o grwyn daearfoch, yr hwn sydd yn uchaf arno, a chuddlen drws pabell y cyfarfod,

26 A llenni'r cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a'r allor o amgylch, a'i rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a'r hyn oll a wnaed iddynt: felly y gwasanaethant hwy.

27 Wrth orchymyn Aaron a'i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch atynt eu holl glud i'w cadw.

28 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod; ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt.

29 A meibion Merari, trwy eu teuluoedd wrth dŷ eu tadau, y cyfrifi hwynt;

30 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

31 A dyma oruchwyliaeth eu clud hwynt, yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod; sef ystyllod y tabernacl, a'i farrau, a'i golofnau, a'i forteisiau,

32 A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch a'u morteisiau, a'u hoelion, a'u rhaffau, ynghyd â'u holl offer, ac ynghyd â'u holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy.

33 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari, yn eu holl weinidogaeth ym mhabell y cyfarfod, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.

34 A rhifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid y gynulleidfa, feibion Cohath, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau:

35 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

36 A'u rhifedigion trwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain.

37 Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

38 Rhifedigion meibion Gerson hefyd, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau;

39 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

40 A'u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, oeddynt ddwy fil a chwe chant a deg ar hugain.

41 Dyma rifedigion tylwyth meibion Gerson, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd.

42 A rhifedigion tylwyth meibion Merari, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau;

43 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

44 A'u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, oeddynt dair mil a dau cant.

45 Dyma rifedigion tylwyth meibion Merari, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

46 Yr holl rifedigion, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid Israel, o'r Lefiaid, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau;

47 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai i wneuthur gwaith gwasanaeth, neu waith clud ym mhabell y cyfarfod:

48 A'u rhifedigion oeddynt wyth mil pum cant a phedwar ugain.

49 Wrth orchymyn yr Arglwydd, trwy law Moses y rhifodd efe hwy, pob un wrth ei wasanaeth, ac wrth ei glud: fel hyn y rhifwyd hwynt, fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36