Numeri 24 BWM

1 Pan welodd Balaam mai da oedd yng ngolwg yr Arglwydd fendithio Israel; nid aeth efe, megis o'r blaen, i gyrchu dewiniaeth; ond gosododd ei wyneb tua'r anialwch.

2 A chododd Balaam ei lygaid: ac wele Israel yn pebyllio yn ôl ei lwythau: a daeth ysbryd Duw arno ef.

3 Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a'r gŵr a agorwyd ei lygaid, a ddywedodd;

4 Gwrandawydd geiriau Duw a ddywedodd yr hwn a welodd weledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac a agorwyd ei lygaid:

5 Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Jacob! dy gyfanheddau di, O Israel!

6 Ymestynnant fel dyffrynnoedd, ac fel gerddi wrth afon, fel aloewydd a blannodd yr Arglwydd, fel y cedrwydd wrth ddyfroedd.

7 Efe a dywallt ddwfr o'i ystenau, a'i had fydd mewn dyfroedd lawer, a'i frenin a ddyrchefir yn uwch nag Agag, a'i frenhiniaeth a ymgyfyd.

8 Duw a'i dug ef allan o'r Aifft; megis nerth unicorn sydd iddo: efe a fwyty y cenhedloedd ei elynion, ac a ddryllia eu hesgyrn, ac â'i saethau y gwana efe hwynt.

9 Efe a gryma, ac a orwedd fel llew, ac fel llew mawr: pwy a'i cyfyd ef? Bendigedig fydd dy fendithwyr, a melltigedig dy felltithwyr.

10 Ac enynnodd dig Balac yn erbyn Balaam; ac efe a drawodd ei ddwylo ynghyd. Dywedodd Balac hefyd wrth Balaam, I regi fy ngelynion y'th gyrchais; ac wele, ti gan fendithio a'u bendithiaist y tair gwaith hyn.

11 Am hynny yn awr ffo i'th fangre dy hun: dywedais, gan anrhydeddu y'th anrhydeddwn; ac wele, ataliodd yr Arglwydd di oddi wrth anrhydedd.

12 A dywedodd Balaam wrth Balac, Oni leferais wrth dy genhadau a anfonaist ataf, gan ddywedyd,

13 Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn droseddu gair yr Arglwydd, i wneuthur da neu ddrwg o'm meddwl fy hun: yr hyn a lefaro yr Arglwydd, hynny a lefaraf fi?

14 Ond yr awr hon, wele fi yn myned at fy mhobl: tyred, mi a fynegaf i ti yr hyn a wna'r bobl hyn i'th bobl di yn y dyddiau diwethaf.

15 Ac efe a gymerth ei ddameg, ac a ddywedodd, Balaam mab Beor a ddywed, a'r gŵr a agorwyd ei lygaid a ddywed;

16 Dywedodd gwrandawydd geiriau Duw, gwybedydd gwybodaeth y Goruchaf, a gweledydd gweledigaeth yr Hollalluog, yr hwn a syrthiodd, ac yr agorwyd ei lygaid:

17 Gwelaf ef, ac nid yr awr hon; edrychaf arno, ond nid o agos: daw seren o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel, ac a ddryllia gonglau Moab, ac a ddinistria holl feibion Seth.

18 Ac Edom a feddiennir, Seir hefyd a berchenogir gan ei elynion; ac Israel a wna rymuster.

19 Ac arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinistria y gweddill o'r ddinas.

20 A phan edrychodd ar Amalec, efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Dechrau y cenhedloedd yw Amalec; a'i ddiwedd fydd darfod amdano byth.

21 Edrychodd hefyd ar y Ceneaid; ac a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dy nyth yn y graig.

22 Anrheithir y Ceneaid, hyd oni'th gaethiwo Assur.

23 Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn?

24 Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur, ac a orthrymant Eber; ac yntau a dderfydd amdano byth.

25 A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i'w ffordd yntau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36