Numeri 3 BWM

1 Adyma genedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai.

2 Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf‐anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar.

3 Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gysegrodd efe i offeiriadu.

4 A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr Arglwydd, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.

5 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

6 Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.

7 A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.

8 A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.

9 A thi a roddi'r Lefiaid i Aaron, ac i'w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.

10 Ac urdda di Aaron a'i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a'r dieithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.

11 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

12 Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro'r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:

13 Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.

14 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd

15 Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod.

16 A Moses a'u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchmynasid iddo.

17 A'r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari.

18 A dyma enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd; Libni a Simei.

19 A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.

20 A meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau.

21 O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid.

22 Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod, eu rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phum cant.

23 Teuluoedd y Gersoniaid awersyllantar y tu ôl i'r tabernacl tua'r gorllewin.

24 A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael.

25 A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a'r babell, ei tho hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod,

26 A llenni'r cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a'r allor o amgylch, a'i rhaffau i'w holl wasanaeth.

27 Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Ussieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid.

28 Rhifedi yr holl wrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cysegr.

29 Teuluoedd meibion Cohath awersyllantar ystlys y tabernacl tua'r deau.

30 A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel.

31 A'u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a'r bwrdd, a'r canhwyllbren, a'r allorau, a llestri'r cysegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a'r gaeadlen, a'i holl wasanaeth.

32 A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.

33 O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari.

34 A'u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant.

35 A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua'r gogledd.

36 Ac yng nghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl, a'i drosolion, a'i golofnau, a'i forteisiau, a'i holl offer, a'i holl wasanaeth,

37 A cholofnau'r cynteddfa o amgylch, a'u morteisiau, a'u hoelion, a'u rhaffau.

38 A'r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua'r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a'i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr, a chadwraeth meibion Israel: a'r dieithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth.

39 Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ôl gair yr Arglwydd, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.

40 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt.

41 A chymer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr Arglwydd,) yn lle holl gyntaf‐anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o anifeiliaid meibion Israel.

42 A Moses a rifodd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo, bobcyntaf‐anedig o feibion Israel.

43 A'r rhai cyntaf‐anedig oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o'u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain.

44 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd,

45 Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd.

46 Ac am y rhai sydd i'w prynu o'r tri ar ddeg a thrigain a deucant, o gyntaf‐anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid;

47 Cymer bum sicl am bob pen; yn ôl sicl y cysegr y cymeri. Ugain gera fydd y sicl.

48 A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt, i Aaron ac i'w feibion.

49 A chymerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid:

50 Gan gyntaf‐anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian; pump a thrigain a thri chant a mil, o siclau y cysegr.

51 A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i'w feibion, yn ôl gair yr Arglwydd, megis y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36