1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Llefara wrth feibion Israel, a chymer gan bob un ohonynt wialen, yn ôl tŷ eu tadau, sef gan bob un o'u penaethiaid, yn ôl tŷ eu tadau, deuddeg gwialen: ysgrifenna enw pob un ar ei wialen.
3 Ac ysgrifenna enw Aaron ar wialen Lefi: canys un wialen fydd dros bob pennaeth tŷ eu tadau.
4 A gad hwynt ym mhabell y cyfarfod, gerbron y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â chwi.
5 A gwialen y gŵr a ddewiswyf, a flodeua: a mi a wnaf i furmur meibion Israel, y rhai y maent yn ei furmur i'ch erbyn, beidio â mi.
6 A llefarodd Moses wrth feibion Israel: a'u holl benaethiaid a roddasant ato wialen dros bob pennaeth, yn ôl tŷ eu tadau, sef deuddeg gwialen; a gwialen Aaron oedd ymysg eu gwiail hwynt.
7 A Moses a adawodd y gwiail gerbron yr Arglwydd, ym mhabell y dystiolaeth.
8 A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwialen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a ddyg asai almonau.
9 A dug Moses allan yr holl wiail oddi gerbron yr Arglwydd at holl feibion Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymerasant bob un ei wialen ei hun.
10 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dod wialen Aaron drachefn gerbron y dystiolaeth, i'w chadw yn arwydd i'r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i'w tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw.
11 A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.
12 A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Wele ni yn trengi; darfu amdanom, darfu amdanom ni oll.
13 Bydd farw pob un gan nesáu a nesao i dabernacl yr Arglwydd. A wneir pen amdanom gan drengi?