Numeri 19 BWM

1 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd.

2 Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith‐gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.

3 A rhoddwch hi at Eleasar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o'r tu allan i'r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef.

4 A chymered Eleasar yr offeiriad beth o'i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o'i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith.

5 A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a'i chig, a'i gwaed, ynghyd â'i biswail, a lysg efe.

6 A chymered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner.

7 A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i'r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr.

8 Felly golched yr hwn a'i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr.

9 A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o'r tu allan i'r gwersyll mewn lle glân; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neilltuaeth pech‐aberth yw.

10 A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragwyddol.

11 A gyffyrddo â chorff marw dyn, aflan fydd saith niwrnod.

12 Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a'r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd.

13 Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd eto arno.

14 Dyma'r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i'r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.

15 A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe.

16 Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, ag un wedi ei ladd â chleddyf, neu ag un marw, neu ag asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod.

17 Cymerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder ato ddwfr rhedegog mewn llestr;

18 A chymered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd ag asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd:

19 A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a'r seithfed dydd; ac ymlanhaed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr.

20 Ond y gŵr a haloger, ac nid ymlanhao torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynulleidfa: canys efe a halogodd gysegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y neilltuaeth; aflan yw efe.

21 A bydd iddynt yn ddeddf dragwyddol bod i'r hwn a daenello ddwfr y neilltuaeth, olchi ei ddillad; a'r hwn a gyffyrddo â dwfr y neilltuaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr.

22 A'r hyn oll a gyffyrddo yr aflan ag ef, fydd aflan: a'r dyn a gyffyrddo â hynny, fydd aflan hyd yr hwyr.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36