Numeri 25 BWM

1 A thrigodd Israel yn Sittim; a dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.

2 A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt.

3 Ac ymgyfeillodd Israel â Baal‐Peor; ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel.

4 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer holl benaethiaid y bobl, a chrog hwynt i'r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.

5 A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a ymgyfeillasant â Baal‐Peor.

6 Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr, yng ngolwg Moses, ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel, a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.

7 A gwelodd Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law;

8 Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i'r babell; ac a'u gwanodd hwynt ill dau, sef y gŵr o Israel, a'r wraig trwy ei cheudod. Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel.

9 A bu feirw o'r pla bedair mil ar hugain.

10 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

11 Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nicter oddi wrth feibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd.

12 Am hynny dywed, Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch.

13 A bydd iddo ef, ac i'w had ar ei ôl ef, amod o offeiriadaeth dragwyddol; am iddo eiddigeddu dros ei Dduw, a gwneuthur cymod dros feibion Israel.

14 Ac enw y gŵr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyda'r Fidianees, oedd Simri, mab Salu,pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon.

15 Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cosbi, merch Sur: pencenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn.

16 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

17 Blina'r Midianiaid, a lleddwch hwynt:

18 Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i'ch erbyn, yn achos Peor, ac yn achos Cosbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36