Numeri 33 BWM

1 Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron.

2 A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchymyn yr Arglwydd: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan.

3 A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf: trannoeth wedi'r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll.

4 (A'r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf‐anedig, y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg; a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.)

5 A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth.

6 A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch.

7 A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.

8 A chychwynasant o Pi‐hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i'r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara.

9 A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno.

10 A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch.

11 A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin.

12 Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca.

13 A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus.

14 A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i'r bobl i'w yfed.

15 A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai.

16 A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth‐Hattaafa.

17 A chychwynasant o Cibroth‐Hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth.

18 A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithma.

19 A chychwynasant o Rithma, a gwersyllasant yn Rimmon‐Pares.

20 A chychwynasant o Rimmon‐Pares, a gwersyllasant yn Libna.

21 A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa.

22 A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha.

23 A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer.

24 A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada.

25 A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth.

26 A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath.

27 A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tara.

28 A chychwynasant o Tara, a gwersyllasant ym Mithca.

29 A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona.

30 A chychwynasant o Hasmona, a gwersyllasant ym Moseroth.

31 A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene‐Jaacan.

32 A chychwynasant o Bene‐Jaacan, a gwersyllasant yn Hor‐hagidgad.

33 A chychwynasant o Hor‐hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha.

34 A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona.

35 A chychwynasant o Ebrona, a gwersyllasant yn Esion‐Gaber.

36 A chychwynasant o Esion‐Gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades.

37 A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom.

38 Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr Arglwydd; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis.

39 Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor.

40 A'r brenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel.

41 A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona.

42 A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon,

43 A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth.

44 A chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn Ije‐Abarim, ar derfyn Moab.

45 A chychwynasant o Ije‐Abarim, a gwersyllasant yn Dibon‐Gad.

46 A chychwynasant o Dibon‐Gad, a gwersyllasant yn Almon‐Diblathaim.

47 A chychwynasant o Almon‐Diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.

48 A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

49 A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth‐Jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.

50 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd,

51 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan;

52 Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o'ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt.

53 A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i'w berchenogi.

54 Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i'r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i'r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch.

55 Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o'ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo.

56 A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36