Numeri 32 BWM

1 Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dir Jaser, a thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid.

2 A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleasar yr offeiriad, ac wrth benaduriaid y gynulleidfa, gan ddywedyd,

3 Atoroth, a Dibon, a Jaser, a Nimra, a Hesbon, ac Eleale, a Sebam, a Nebo, a Beon,

4 Sef y tir a drawodd yr Arglwydd o flaen cynulleidfa Israel, tir i anifeiliaid yw efe; ac y mae i'th weision anifeiliaid.

5 A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dy olwg, rhodder y tir hwn i'th weision yn feddiant: na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen.

6 A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Reuben, A â eich brodyr i'r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau yma?

7 A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i'r tir a roddodd yr Arglwydd iddynt?

8 Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades‐Barnea i edrych y tir.

9 Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonasant feibion Israel rhag myned i'r tir a roddasai yr Arglwydd iddynt.

10 Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan ddywedyd,

11 Diau na chaiff yr un o'r dynion a ddaethant i fyny o'r Aifft, o fab ugain mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i:

12 Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr Arglwydd.

13 Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd.

14 Ac wele, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwanegu ar angerdd llid yr Arglwydd wrth Israel.

15 Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch, a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.

16 A hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i'n hanifeiliaid, a dinasoedd i'n plant.

17 A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i'w lle eu hun; a'n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir.

18 Ni ddychwelwn ni i'n tai, nes i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth.

19 Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o'r tu hwnt i'r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o'r tu yma i'r Iorddonen, tua'r dwyrain.

20 A dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i'r rhyfel o flaen yr Arglwydd,

21 Os â pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr Arglwydd, nes iddo yrru ymaith ei elynion o'i flaen,

22 A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd ac y byddwch dieuog gerbron yr Arglwydd, a cherbron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd.

23 Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd: a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi.

24 Adeiledwch i chwi ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o'ch genau.

25 A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn.

26 Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid a'n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead.

27 A'th weision a ânt drosodd o flaen yr Arglwydd i'r rhyfel, pob un yn arfog i'r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.

28 A gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau‐cenedl llwythau meibion Israel, o'u plegid hwynt:

29 A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i'r rhyfel o flaen yr Arglwydd, a darostwng y wlad o'ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth:

30 Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan.

31 A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr Arglwydd wrth dy weision, felly y gwnawn ni.

32 Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o'r tu yma i'r Iorddonen gennym ni.

33 A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a'i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.

34 A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer,

35 Ac Atroth, Soffan, a Jaaser, a Jogbea,

36 A Beth‐nimra, a Beth‐haran,dinasoedd caerog; a chorlannau defaid.

37 A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim;

38 Nebo hefyd, a Baal‐meon, (wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant.

39 A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a'i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi.

40 A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi.

41 Ac aeth Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a'u galwodd hwynt Hafoth‐Jair.

42 Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a'i phentrefydd, ac a'i galwodd ar ei enw ei hun, Noba.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36