Numeri 22 BWM

1 Ameibion Israel a gychwynasant, ac a wersyllasant yn rhosydd Moab, am yr Iorddonen â Jericho.

2 A gwelodd Balac mab Sippor yr hyn oll a wnaethai Israel i'r Amoriaid.

3 As ofnodd Moab rhag y bobl yn fawr; canys llawer oedd: a bu gyfyng ar Moab o achos meibion Israel.

4 A dywedodd Moab wrth henuriaid Midian, Y gynulleidfa hon yn awr a lyfant ein holl amgylchoedd, fel y llyf yr ych wellt y maes. A Balac mab Sippor oedd frenin ar Moab yn yr amser hwnnw.

5 Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i'w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele bobl a ddaeth allan o'r Aifft: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.

6 Yr awr hon, gan hynny, tyred, atolwg, melltithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a'u gyrru hwynt o'r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech.

7 A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.

8 A dywedodd yntau wrthynt, Lletywch yma heno; a rhoddaf i chwi ateb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf. A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam.

9 A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi?

10 A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Sippor, brenin Moab, a ddanfonodd ataf, gan ddywedyd,

11 Wele bobl wedi dyfod allan o'r Aifft, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a'u gyrru allan.

12 A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyda hwynt; na felltithia'r bobl: canys bendigedig ydynt.

13 A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i'ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi.

14 A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni.

15 A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na'r rhai hyn.

16 A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Atolwg, na luddier di rhag dyfod ataf:

17 Canys gan anrhydeddu y'th anrhydeddaf yn fawr; a'r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, atolwg, rhega i mi y bobl hyn.

18 A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw, i wneuthur na bychan na mawr.

19 Ond, atolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthyf yn ychwaneg.

20 A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i'th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyda hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di.

21 Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyda thywysogion Moab.

22 A dig Duw a enynnodd, am iddo ef fyned: ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd i'w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau lanc gydag ef.

23 A'r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o'r ffordd, ac a aeth i'r maes: a thrawodd Balaam yr asen, i'w throi i'r ffordd.

24 Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o'r ddeutu.

25 Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a'i trawodd hi eilwaith.

26 Ac angel yr Arglwydd a aeth ymhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tua'r tu deau na'r tu aswy.

27 A gwelodd yr asen angel yr Arglwydd, ac a orweddodd dan Balaam: yna yr enynnodd dig Balaam, ac efe a drawodd yr asen â ffon.

28 A'r Arglwydd a agorodd safn yr asen; a hi a ddywedodd wrth Balaam, Beth a wneuthum i ti, pan drewaist fi y tair gwaith hyn?

29 A dywedodd Balaam wrth yr asen, Am i ti fy siomi. O na byddai gleddyf yn fy llaw; canys yn awr y'th laddwn.

30 A dywedodd yr asen wrth Balaam, Onid myfi yw dy asen, yr hon y marchogaist arnaf er pan ydwyf eiddot ti, hyd y dydd hwn? gan arfer a arferais i wneuthur i ti fel hyn? Ac efe a ddywedodd, Naddo.

31 A'r Arglwydd a agorodd lygaid Balaam; ac efe a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf noeth yn ei law: ac efe a ogwyddodd ei ben, ac a ymgrymodd ar ei wyneb.

32 A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho, Paham y trewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti; canys cyfeiliornus yw'r ffordd hon yn fy ngolwg.

33 A'r asen a'm gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai iddi gilio rhagof, diau yn awr y lladdaswn di, ac a'i gadawswn hi yn fyw.

34 A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Pechais; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg yw yn dy olwg, dychwelaf adref.

35 A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam, Dos gyda'r dynion; a'r gair a lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyda thywysogion Balac.

36 A chlybu Balac ddyfod Balaam: ac efe a aeth i'w gyfarfod ef i ddinas Moab; yr hon sydd ar ardal Arnon, yr hon sydd ar gwr eithaf y terfyn.

37 A dywedodd Balac wrth Balaam, Onid gan anfon yr anfonais atat i'th gyrchu? paham na ddeuit ti ataf? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus?

38 A dywedodd Balaam wrth Balac, Wele, mi a ddeuthum atat: gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon? y gair a osodo Duw yn fy ngenau, hwnnw a lefaraf fi.

39 A Balaam a aeth gyda Balac; a hwy a ddaethant i Gaer‐Husoth.

40 A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ran i Balaam, ac i'r tywysogion oedd gydag ef.

41 A'r bore Balac a gymerodd Balaam, ac a aeth ag ef i fyny i uchelfeydd Baal; fel y gwelai oddi yno gwr eithaf y bobl.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36