Numeri 6 BWM

1 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread, i ymneilltuo i'r Arglwydd:

3 Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion.

4 Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o'r dincod hyd y bilionen.

5 Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni'r dyddiau yr ymneilltuodd efe i'r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu.

6 Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i'r Arglwydd, na ddeued at gorff marw.

7 Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nasareaeth ei Dduw ar ei ben ef.

8 Holl ddyddiau ei Nasareaeth,sanctaidd fydd efe i'r Arglwydd.

9 Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nasareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef.

10 Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod.

11 Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, a gwnaed gymod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw.

12 A neilltued i'r Arglwydd ddyddiau ei Nasareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nasareaeth ef.

13 A dyma gyfraith y Nasaread: pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod.

14 A dyged yn offrwm drosto i'r Arglwydd, un hesbwrn blwydd,perffaith‐gwbl yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith‐gwbl, yn bech‐aberth; ac un hwrdd perffaith‐gwbl, yn aberth hedd;

15 Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm hwy.

16 A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ei bech‐aberth a'i boethoffrwm ef.

17 Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i'r Arglwydd, ynghyd â'r cawellaid bara croyw; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd‐offrwm a'i ddiod‐offrwm ef.

18 Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth; a chymered flew pen ei Nasareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd.

19 Cymered yr offeiriad hefyd balfais o'r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o'r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylo'r Nasaread, wedi eillio ohono ei Nasareaeth;

20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: sanctaidd yw hyn i'r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin.

21 Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd, a'i offrwm i'r Arglwydd am ei Nasareaeth, heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heblaw cyfraith ei Nasareaeth.

22 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

23 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt,

24 Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di:

25 A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt:

26 Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd.

27 Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a'u bendithiaf hwynt.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36