Numeri 29 BWM

1 Ac yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y bydd i chwi gymanfa sanctaidd; dim caethwaith nis gwnewch: dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi.

2 Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i'r Arglwydd; un bustach ieuanc, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith‐gwbl:

3 A'u bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;

4 Ac un ddegfed ran gyda phob oen, o'r saith oen:

5 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch:

6 Heblaw poethoffrwm y mis, a'i fwyd‐offrwm, a'r poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.

7 Ac ar y degfed dydd o'r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo.

8 Ond offrymwch boethoffrwm i'r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl gennych.

9 A'u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;

10 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o'r saith oen:

11 Un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw pech‐aberth y cymod, a'r poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'u diod‐offrymau.

12 Ac ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod.

13 Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl.

14 A'u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o'r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o'r ddau hwrdd;

15 A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o'r pedwar oen ar ddeg:

16 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.

17 Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.

18 A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

19 Ac un bwch geifr, yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm a'u diod‐offrymau.

20 Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl:

21 A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

22 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.

23 Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl:

24 Eu bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

25 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.

26 Ac ar y pumed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.

27 A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod;

28 Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.

29 Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.

30 A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

31 Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.

32 Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.

33 A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth eu defod:

34 Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.

35 Ar yr wythfed dydd, uchel ŵyl fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch ynddo.

36 Ond offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd; un bustach, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.

37 Eu bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustach, a chyda'r hwrdd, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:

38 Ac un bwch yn bech‐aberth: heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.

39 Hyn a wnewch i'r Arglwydd ar eich gwyliau; heblaw eich addunedau, a'ch offrymau gwirfodd, gyda'ch offrymau poeth, a'ch offrymau bwyd, a'ch offrymau diod, a'ch offrymau hedd.

40 A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28 29 30 31 32 33 34 35 36