48 Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
49 Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymer eu nifer hwynt, ymysg meibion Israel.
50 Ond dod i'r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt‐hwy a ddygant y babell, a'i holl ddodrefn, ac a'i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i'r babell.
51 A phan symudo'r babell, y Lefiaid a'i tyn hi i lawr; a phan arhoso'r babell, y Lefiaid a'i gesyd hi i fyny: lladder y dieithr a ddelo yn agos.
52 A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun, a phob un wrth ei luman ei hun, trwy eu lluoedd.
53 A'r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth.
54 A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.