1 Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Gwna i ti ddau utgorn arian; yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynulleidfa ynghyd, ac i beri i'r gwersylloedd gychwyn.
3 A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat, wrth ddrws pabell y cyfarfod.
4 Ond os ag un y canant; yna y tywysogion sef penaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant.
5 Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd y rhai a wersyllant tua'r dwyrain, a gychwynnant.
6 Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua'r deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.
7 Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa, cenwch yr utgyrn; ond na chenwch larwm.