11 A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o'r mis, gyfodi o'r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth.
12 A meibion Israel a gychwynasant i'w taith o anialwch Sinai; a'r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran.
13 Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.
14 Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.
15 Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar.
16 Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon.
17 Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.