14 Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.
15 Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar.
16 Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon.
17 Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.
18 Yna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur.
19 Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisadai.
20 Ac ar lu llwyth meibion Gad, Eliasaff mab Deuel.