19 Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisadai.
20 Ac ar lu llwyth meibion Gad, Eliasaff mab Deuel.
21 A'r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cysegr; a'r lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.
22 Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud.
23 Ac ar lu llwyth meibion Manasse, Gamaliel mab Pedasur.
24 Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.
25 Yna lluman gwersyll meibion Dan, yn olaf o'r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai.