22 Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud.
23 Ac ar lu llwyth meibion Manasse, Gamaliel mab Pedasur.
24 Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.
25 Yna lluman gwersyll meibion Dan, yn olaf o'r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai.
26 Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran.
27 Ac ar lu llwyth meibion Nafftali, Ahira mab Enan.
28 Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.