28 Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.
29 A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i'r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel.
30 Dywedodd yntau wrtho, Nid af ddim; ond i'm gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr af.
31 Ac efe a ddywedodd, Na ad ni, atolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni,
32 A phan ddelych gyda ni, a dyfod o'r daioni hwnnw, yr hwn a wna'r Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.
33 A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o'u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orffwysfa iddynt.
34 A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o'r gwersyll.