33 A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o'u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orffwysfa iddynt.
34 A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o'r gwersyll.
35 A hefyd pan gychwynnai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, Arglwydd, a gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseion o'th flaen.
36 A phan orffwysai hi, y dywedai efe, Dychwel, Arglwydd, at fyrddiwn miloedd Israel.