1 A'r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a'i ddig a enynnodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwr y gwersyll.
2 A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd; a'r tân a ddiffoddodd.
3 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy.
4 A'r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i'w fwyta?
5 Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a'r pompionau, a'r cennin, a'r winwyn, a'r garlleg:
6 Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.
7 A'r manna hwnnw oedd fel had coriander, a'i liw fel lliw bdeliwm.