13 O ba le y byddai gennyf fi gig i'w roddi i'r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i'w fwyta.
14 Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi.
15 Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.
16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi.
17 Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o'r ysbryd sydd arnat ti, ac a'i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig.
18 Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i'w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwytewch.
19 Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod;