28 A Josua mab Nun, gweinidog Moses o'i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt.
29 A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi, a rhoddi o'r Arglwydd ei ysbryd arnynt!
30 A Moses a aeth i'r gwersyll, efe a henuriaid Israel.
31 Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a'u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear.
32 Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a'r nos oll, a'r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll.
33 A'r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodddigofaintyr Arglwydd yn erbyn y bobl; a'r Arglwydd a drawodd y bobl â phla mawr iawn.
34 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth‐Hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent.