4 A'r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i'w fwyta?
5 Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a'r pompionau, a'r cennin, a'r winwyn, a'r garlleg:
6 Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.
7 A'r manna hwnnw oedd fel had coriander, a'i liw fel lliw bdeliwm.
8 Y bobl a aethant o amgylch, ac a'i casglasant ac a'i malasant mewn melinau, neu a'i curasant mewn morter, ac a'i berwasant mewn peiriau, ac a'i gwnaethant yn deisennau: a'i flas ydoedd fel blas olew ir.
9 A phan ddisgynnai'r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai'r manna arno ef.
10 A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac enynnodd dig yr Arglwydd yn fawr; a drwg oedd gan Moses.