6 Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg.
7 A'r manna hwnnw oedd fel had coriander, a'i liw fel lliw bdeliwm.
8 Y bobl a aethant o amgylch, ac a'i casglasant ac a'i malasant mewn melinau, neu a'i curasant mewn morter, ac a'i berwasant mewn peiriau, ac a'i gwnaethant yn deisennau: a'i flas ydoedd fel blas olew ir.
9 A phan ddisgynnai'r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai'r manna arno ef.
10 A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac enynnodd dig yr Arglwydd yn fawr; a drwg oedd gan Moses.
11 Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf?
12 Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a'u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i'r tir a addewaist trwy lw i'w tadau?